Rhif y ddeiseb:

Teitl y ddeiseb: Achubwch feddygfeydd angenrheidiol

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i ailystyried cau meddygfeydd

Troed y Bryn ym Mhenyrheol
Lansbury yng Nghaerffili

Mae gan y ddwy feddygfa gyfanswm o 3,962 o gleifion cofrestredig rhyngddyn nhw.

Byddai cau’r rhain yn creu sgil-effaith wrth i’r cleifion orfod mynd i feddygfeydd eraill.  Byddai amserau aros hirach am apwyntiadau a/neu fynediad cyfyngedig oherwydd y niferoedd.

Mae gwaith codi tai wedi'i gynllunio ym Mwrdeistref Caerffili, gan gynnwys Caerffili a’r cyffiniau, a bydd hynny'n creu cynnydd yn nifer y cleifion cofrestredig y soniwyd amdanynt.

 

 


1.     Cefndir

Mae meddygfeydd Lansbury Park a Throed y Bryn (Penyrheol) yng Nghaerffili wedi cau ers 1 Mai 2020.

Yn ôl  gwybodaeth ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB), roedd cleifion Meddygfa Lansbury wedi cael gwybod y byddai Dr Fakande yn ymddiswyddo ac yn dod â'i Gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol i ben ar 30 Ebrill 2020 ymlaen. Fel meddyg teulu a oedd yn gweithio ar ei ben ei hun, roedd yn ofynnol i Dr Fakande roi tri mis o rybudd. Mae Meddygfa Troed y Bryn yn gangen o Feddygfa Lansbury a Dr Fakande hefyd oedd yr unig feddyg teulu yn y feddygfa hon.

Dywedodd y Bwrdd Iechyd y byddai'n sicrhau y byddai pob claf a oedd wedi'i gofrestru â Meddygfa Lansbury yn gallu cofrestru â meddyg teulu arall o 1 Mai 2020 ymlaen ac y byddai  Dr Fakande yn parhau i ddarparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol i gleifion fel arfer nes i'r contract ddod i ben ar 30 Ebrill 2020.

Trefnwyd i Banel Meddygfeydd Gwag y Bwrdd Iechyd gyfarfod ar 24 Ionawr 2020 i drafod y dewisiadau posibl. Cytunwyd y byddai'r feddygfa’n cael ei hysbysebu'n genedlaethol, gyda'r nod o recriwtio contractwr meddyg teulu newydd i barhau i ddarparu gwasanaethau meddyg teulu i'r cleifion sydd wedi'u cofrestru â Meddygfa Lansbury. Anfonwyd llythyr at y cleifion yn egluro hyn. Trefnwyd sesiynau galw heibio ym Meddygfa Lansbury i gleifion drafod unrhyw bryderon a oedd ganddynt gyda chynrychiolydd y Bwrdd Iechyd.

Er yr ymgyrch hysbysebu genedlaethol, ni lwyddodd ABUHB i ddod o hyd i neb i gymryd lle’r meddyg a oedd yn ymddeol ac felly, mae’r 3,962 o gleifion a gofrestrwyd yn y feddygfa wedi’u symud i feddygfeydd cyfagos. Mewn erthygl  ar Wales Online ym mis Mawrth 2020, nodwyd y bydd cleifion ym Meddygfa Lansbury yn cael eu cofrestru â Chanolfan Feddygol Courthouse a Meddygfa Ton-y-Felin, tra bydd cleifion Penyrheol yn gallu cael gofal iechyd ym meddygfeydd Nantgarw, Abertridwr a Llanbradach. Mae'r erthygl yn nodi bod llawer o'r meddygfeydd hyn eisoes yn orlawn.

 

 

 

 

 

Y weithdrefn sydd ar waith pan fydd meddyg teulu’n dod â’i gontract i ben

Mae gwefan ABUHB yn cynnwys dolen i ddogfen sy’n rhoi gwybodaeth am y trefniadau sydd ar waith i feddyg teulu ddod â’i gontract i ben. Mae’r wybodaeth berthnasol o’r ddogfen hon i’w gweld isod.

Mae meddygfeydd yn gontractwyr annibynnol sy'n cael eu comisiynu gan y Bwrdd Iechyd i ddarparu gofal trwy'r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Gall Meddygon Teulu ddewis terfynu (ymddiswyddo) eu trefniant contract gyda'r Bwrdd Iechyd.  Os yw'r practis yn Feddyg Teulu ar ei ben ei hun, mae angen 3 mis o rybudd.

Pan fydd practis yn ymddiswyddo o’u contract, cyfrifoldeb y Byrddau Iechyd yw sicrhau bod gan bob claf fynediad at Wasanaethau Meddygol Cyffredinol o’r dyddiad y bydd y contract yn dod i ben.  

Mae'r Bwrdd Iechyd yn dilyn proses o'r enw'r Broses Ymarfer Gwag, lle mae panel yn cwrdd i drafod yr opsiynau sydd ar gael: Mae'r Panel Ymarfer Gwag yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Iechyd Cymunedol a Phwyllgor Meddygol Lleol Aneurin Bevan. Mae sawl ffactor yn cael eu hystyried gan gynnwys maint y Practis, yr adeilad presennol, ac anghenion Iechyd y boblogaeth leol. Mae'r broses hon yn manylu ar nifer o opsiynau y gellir eu hystyried, mae enghreifftiau'n cynnwys:

§    Hysbysebu'r practis, gyda'r nod o sicrhau partneriaeth Meddygon Teulu newydd i gymryd yr awenau.

§    Gan ddyrannu cleifion i feddygfeydd teulu lleol, bydd cleifion yn cael eu cofrestru gyda meddyg teulu amgen yn agos at eu cartref.

§    Rheolaeth y Bwrdd Iechyd- mae'r Bwrdd Iechyd yn cymryd cyfrifoldeb y practis.

Dylai’r Bwrdd Iechyd anfon llythyr at y cleifion yn dweud sut y byddant yn cael gwasanaethau pan ddaw’r contract i ben a dylai geisio sicrhau bod cleifion yn dal yn cael dewis pa feddygfa y byddant yn cofrestru â hi.

Mae ABUHB yn nodi bod digon o arian i sicrhau bod digon o feddygon teulu yn gwasanaethu’r boblogaeth ond gall problemau godi gan ei bod yn anodd denu meddygon teulu i weithio mewn ardal benodol.

 

 

 

2.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor ar 20 Ebrill 2020 yn egluro, unwaith eto, beth yw’r sefyllfa pan fydd contractwr meddyg teulu annibynnol yn penderfynu dod â’i gontract gyda Bwrdd Iechyd i ben. Bryd hynny, mae gan y Bwrdd Iechyd dan sylw gyfrifoldeb i sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol o safon yn parhau i gael eu darparu i’r cleifion hynny a oedd wedi’u cofrestru â’r meddyg teulu sydd wedi ymddiswyddo.  Mae'n cadarnhau bod ABUHB wedi anfon llythyr at y cleifion yn dweud y byddent yn cael eu symud i feddygfeydd cyfagos ac y byddai’r trefniadau newydd ar waith erbyn 1 Mai 2020.

Mae'r Gweinidog yn tynnu sylw at y ffaith bod angen i Gymru, ynghyd â rhannau eraill o'r DU, fynd i’r afael â’r broblem o recriwtio meddygon teulu. Yn 2016, lansiwyd ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo gyrfaoedd meddygol yng Nghymru; “Gwlad, Gwlad: Hyfforddi, Gweithio, Byw ”. Mae'r ymgyrch yn cefnogi gweithgareddau recriwtio’r byrddau a’r ymddiriedolaethau iechyd a meddygfeydd.

Fel rhan o'r ymgyrch, cynigir dau gymhelliant ariannol. Y cymhelliant cyntaf yw swm o £20,000 a gynigir i feddygon teulu dan hyfforddiant mewn ardal benodol lle mae’n anodd recriwtio.  Telir y swm hwn os yw'r meddyg teulu dan hyfforddiant yn ymrwymo i aros yn un o’r ardaloedd hyn i weithio am flwyddyn ar ôl cymhwyso. Yr ail gymhelliant, sydd ar gael i bob  meddyg teulu dan hyfforddiant, yw un taliad o £2,000 i dalu costau eu harholiadau terfynol.

Mae’r Gweinidog yn dweud hefyd fod yr ymgyrch, ynghyd â'r cymhellion ariannol, yn helpu i gynyddu nifer y meddygon sy'n dewis cwblhau eu hyfforddiant fel meddygon teulu yng Nghymru.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.